Os oeddech yn un o’n myfyrwyr cyntaf neu os ydych yng nghanol astudio, yr ydym eisiau clywed eich stori am y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Yr ydym eisiau annog mwy o bobl dros Gymru i gychwyn eu taith astudio gyda ni, felly mae’n bosib byddwn yn cysylltu i ofyn a gallwn ddefnyddio’ch stori ar ein gwefan, rhwydweithiau cymdeithasol, neu hysbysebu. Peidiwch â phoeni – ni fyddwn yn defnyddio unrhyw beth heb gysylltu â chi am ganiatâd yn gyntaf. |