On this page
University View, Western Mail, Ionawr 2010
Wrth i Rhodri Morgan gamu i lawr o awenau Llywodraeth Genedlaethol Cymru, roedd llawer o'r dathliadau ffarwel yn llongyfarch cyn Brif Weinidog Cymru ar lywio datganoli drwy'r cyfnod anodd cychwynnol a'i angori fel rhan dderbyniol o fywyd yng Nghymru, gan gymryd ysbrydoliaeth o'i adduned ei hun i fod "yn Gynulliad y bobl, nid y sefydliad". Gyda chymysgedd o bersbectif personol, pellter amlwg rhwng y weithrediaeth a'r Cynulliad ac uchelgais am orwelion ehangach o bosibl, y mae ei olynydd, felly, wedi addo bod yn arweinydd "Cymru gyfan", gyda'i olwg ar y wlad yn hytrach na'r Senedd.
Ynghyd â cheisio apelio at, a chyrraedd pobl ledled y wlad, mae Carwyn Jones wedi gwneud ei ymrwymiad i addysg yn glir o ran gwariant y llywodraeth a'r pwysigrwydd o fewn ei agenda polisi. Mae'r flaenoriaeth hon wedi parhau o'r cyfnod ymgyrchu i'r llywodraeth, fel sydd wedi ei dystiolaethu gyda phenodiad ei reolwr ymgyrchoedd, Leighton Andrews, i'r portffolio addysg yn y cabinet.
Roedd felly'n beth da gweld y Prif Weinidog yn gwneud cysylltiad rhwng addysg a ffyniant economaidd a'r "syniad o chwarae teg...ac ymdeimlad cryf o gyfiawnder cymdeithasol" yn ei neges Flwyddyn Newydd. Er bod datblygu sgiliau yn bwysig i ddatblygiad economaidd, ni ddylem anwybyddu pwysigrwydd addysg wrth ddatblygu dinasyddion mwy hyddysg, ehangu gorwelion a chefnogi cyfle cyfartal - mae dim ond cymryd cipolwg ar nifer y pleidleiswyr yn etholiadau'r Cynulliad yn cadarnhau hyn.
Mae cwrs newydd y Brifysgol Agored ar Gymru Cyfoes, sy'n dechrau ym mis Mai, wedi'i seilio ar ddeunydd newydd gan arbenigwyr yn y maes ac yn cymryd golwg o'r newydd ar ein cenedl sy'n newid. Bydd yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr archwilio'r hunaniaeth Gymreig yn ogystal â diwylliant, cymdeithas a gwleidyddiaeth y genedl sy'n dod yn fwy unigryw. Mae'r cwrs yn arfogi'r myfyrwyr gyda gwybodaeth graidd o'r gwyddorau cymdeithasol ac yn edrych ar themâu cysylltiadau a gwahaniaethau yng Nghymru.
Mae ein Prif Weinidog newydd yn cynrychioli'r ardal ble cafodd ei fagu yn y Cynulliad ond mae hefyd wedi pwysleisio'n gyson ei gysylltiadau a'i ddealltwriaeth o'r genedl gyfan. Yn nhermau polisi, nid yw "Cymru gyfan" Mr Jones yn awgrymu un dull i bawb, ond yn hytrach mae'n fwy tebygol o gryfhau cyfleoedd ar draws y wlad gan wneud y gorau o'n maint a'n cyfleoedd i weithio gyda'n gilydd er budd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae'n ymddangos bod strategaeth "Er Mwyn Ein Dyfodol" y llywodraeth yn parhau i ategu hyn. Mae ei nodau o gael mwy o bobl i brofi addysg uwch, gwella cynllunio a darpariaeth trwy bartneriaethau, creu cadwynau cryfach o ddarparwyr addysg a dysgu hyblyg, a rhoi mwy o bwyslais ar ymchwil a datblygu, yn awgrymu fod gan y llywodraeth uchelgais genedlaethol ac am gael y gorau o'n holl ddinasyddion.
Mae'n gyfnod heriol i Addysg Uwch, fel y gwelwyd yr wythnos hon o feirniadaeth Gweithgor Russell o lywodraeth y DU. Mae'n bryd i ni yng Nghymru, ac nid yn unig yn y sector Addysg Uwch, ddechrau gwireddu'r hyn rydym wedi bod yn ei ddweud am wneud y gorau o'r cyfleoedd mae maint ein gwlad yn eu cynnig. Gall gwneud y gorau o'n cryfderau, boed yn unigol, rhanbarthol neu'n genedlaethol, ddod â budd gwirioneddol. Ond dylai partneriaethau a chydweithio ganolbwyntio ar ddeilliannau gwirioneddol.
Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru, fel Sefydliad Addysg Uwch sy'n gweithredu ledled Cymru (ac yn rhan o ddarparwr dysgu rhyngwladol), yn croesawu'r heriau o ddod â'r persbectif cenedlaethol a'r ddarpariaeth ran-amser ymroddedig i gyd-fynd ag uchelgais y strategaeth a meddylfryd "Cymru gyfan". Gyda dros 7,000 o fyfyrwyr ym mron pob cymuned yng Nghymru, a buddsoddiad o filiynau yn ein gwaith ar-lein, mae ein cyrraedd cymunedol cenedlaethol a rhyngwladol yn helaeth. Yn wir, mae gwefan Hanes Cymru a'i Ffynonellau, sydd am ddim, yn un o'r 10 mwyaf poblogaid ar OpenLearn (deunydd am ddim y Brifysgol Agored), ac wedi cael dros 6 miliwn o ymwelwyr ers ei lansio yn 2006. Mae ein gwaith gyda TUC Cymru ac undebau unigol fel Unsain yn ein galluogi i gyrraedd y rhai sy'n dymuno hyfforddi a datblygu sgiliau ledled Cymru.
Gellir cefnogi rhoi pwyslais ar ehangu mynediad a chyfleoedd trwy bartneriaethau sy'n cyflawni anghenion a gofynion, yn ogystal â chynnig mwy o ddysgu hyblyg drwy'r genedl gan ddarpariaeth amrywiol a chyfleoedd rhan amser yn arbennig. Mae cwrdd â phobl ble bynnag y maent, a chyfuno astudio â gwaith ac ymrwymiadau eraill, yn allweddol i ddyfodol economi Gymreig gystadleuol, lefelau sgiliau uwch a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Dewi Knight yw Rheolwr Polisïau a Materion Cyhoeddus y Brifysgol Agored yng Nghymru.
Dathlodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ei phen-blwydd yn 40 oed ledled y wlad, o Landudno ar arfordir y Gogledd, i'r Gelli Gandryll ar y ffin rhwng Powys a Swydd Henffordd, i Abertawe yn y De Orllewin.
Mewn cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gyda chyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol, staff a chyn-staff gan gynnwys darlithwyr cyswllt, cefnogwyr a gwesteion pwysig oll yn cymryd rhan, cafodd bron i fil o bobl ym mhob cwr o Gymru flas ar 40 o flynyddoedd o ysbrydoli dysgu.
10 MILIWN O LAWRLWYTHIADAU GAN Y BRIFYSGOL AGORED AR ITUNES U
Lawrlwythwyd 10fed miliwn trac y Brifysgol Agored ar iTunes U, ardal benodol o fewn iTunes Store (www.itunes.com), yr wythnos diwethaf, gan wneud y Brifysgol Agored yn brif ddarparwr cynnwys prifysgol am ddim ar iTunes U. Lansiodd y Brifysgol Agored ei darn cyntaf o gynnwys addysgol ar iTunes U ym mis Mehefin 2008 ac erbyn hyn caiff tua 375,000 o eitemau eu lawrlwytho bob wythnos.
Y BRIFYSGOL AGORED YN ENNILL GWOBR AM RAGLEN ADDYSG ATHRAWON YN AFFRICA
Mae'r Brifysgol Agored yn un o 20 o enillwyr Gwobrau mawreddog Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Dyfernir Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines am gyfraniadau eithriadol gan sefydliadau yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach at y gymuned ehangach. Cynnig buddugol y Brifysgol Agored oedd y rhaglen Addysg Athrawon arloesol yn Affrica Is-Sahara. Erbyn hyn, Addysg Athrawon yn Affrica Is-Sahara (TESSA) yw'r gymuned ymchwil a datblygu addysg athrawon fwyaf yn Affrica, gan ymestyn ar draws tri ar ddeg o sefydliadau a naw gwlad yn Affrica.
MYFYRWRAIG Y BRIFYSGOL AGORED YW CYNORTHWY-YDD GOFAL IECHYD Y FLWYDDYN
Mae un o fyfyrwyr y Brifysgol Agored wedi cael ei henwi fel cyd-Gynorthwy-ydd Gofal Iechyd Safon Nyrsio y Flwyddyn. Mae Natalie Rowles, sy'n weithiwr cymorth gofal iechyd ym maes gofal parhaus yn Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent, yn gweithio yn Ysbyty'r Sir yn Griffithstown, Pont-y-pŵl ac fe'i cydnabuwyd am ei gwaith yn darparu pecyn gofal cymhleth i ferch ifanc â pharlys yr ymennydd, epilepsi ac anawsterau dysgu. Cafodd ei gwobr mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Dorchester yn gynharach y mis hwn.
Bwletin Newyddion Tachwedd 2009
topColeg Castell-nedd Port Talbot fydd y cyntaf yn y DU i gyflwyno gradd sylfaen (FD) y Brifysgol Agored mewn Gwasanaethau Ariannol.
Lansiwyd y Radd Sylfaen yn Neuadd Plaisterer, Llundain, yr wythnos ddiwethaf gan Paul Myners, Ysgrifennydd Gwasanaethau Ariannol y Trysorlys, gyda chynrychiolwyr o'r coleg a'r Brifysgol Agored yn bresennol. Hefyd roedd Evan Davies, un o raddedigion anrhydeddus y Brifysgol Agored yn ogystal ag economegydd, newyddiadurwr a chyflwynydd Dragon's Den, yno i ddangos ei gefnogaeth i'r cymhwyster newydd.
Trysorlys yn lansio cydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored a Chastell-nedd Port Talbot
topMae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a Is-Ganghellor newydd y Brifysgol, yr Arolwg Busnesau Bach diweddaraf a digwyddiadau'r Brifysgol i ddod.
topMae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a ddatblygiad newydd gyda Prifysgol Bangor, cynydd yn y nifer o fyfyrwyr iau ac fod y Brifysgol Agored yng Nghymru unwaith eto ar y brif ar gyfer boddhad myfyrwyr.
Bwletin Newyddion - Awst/Medi 2009
topFelly, i'r Bala amdani ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan adael cricedwyr Caerdydd i ddelio â miloedd o ddyfodiaid o Loegr ac Awstralia yr haf hon, yn lle'r pafiliwn pinc yn treulio wicedi caeau Pontcanna.
Erthygl Western Mail, Gorffennaf 2009 - Astudio a safleoedd, a phopeth sy'n ymwneud â'r Maes
topMae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a weithgareddau’r Brifysgol yn y ‘steddfod, ynghyd a newyddion ynglyn a ddatblygiad wefan dirwasgiad Cymru newydd.
Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Gorffennaf 2009
top26 Mehefin 2009
Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a Coast yn dod nol i BBC Dau, manylion ynglyn ag ymateb y brifysgol i strategaeth ieithoedd tramor Llywodraeth Cymru ac llwydiant cyllid HEFCW i’r brifysgol er mwyn cynyddu gwaith ehangu mynediad a chyswllt a chyflogwyr.
Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mehefin 2009
top29 Mai 2009
Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a ‘Steddfod yr Urdd, tystiolaeth y Brifysgol i’r Pwyllgor Materion Cymreig a manlyion ymgyrch newydd astudiaeth ffordiadwy.
Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mai 2009
top20 Mai 2009
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn estyn "Croeso" i'r Brifysgol Agored yr wythnos nesaf, oherwydd, am y tro cynta, bydd gan brifysgol dysgu o bell flaenllaw'r DU bresenoldeb swyddogol yn yr ŵyl ieuenctid.
Bydd Caffi Drysau Agored gan y Brifysgol Agored ar y Maes ym Mae Caerdydd. Bydd ymwelwyr yn cael gwybod rhagor am Croeso, sef cwrs Cymraeg i ddechreuwyr y Brifysgol Agored, yn dysgu am Gyfleoedd, sef cyrsiau camau cyntaf i ddysgu ysbrydoledig y brifysgol, ac yn cael gwybod am Ddysgu Agored, sef adnoddau ar-lein gwych, sy'n rhad ac am ddim.
"Croeso" i ragflas o'r Gymraeg yn yr Urdd, medd y Brifysgol Agored
top23 Ebrill 2009
Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a’r diwrnod graddio’r Brifysgol Agored yng Nghymru (9fed Mai), gwybodaeth ynglyn a darlith y Brifysgol yng Nghwyl y Gelli a hefyd digwyddiadau Wythnos y Dysgwyr.
Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Ebrill 2009
top22 Ebrill 2009
Mae’r Brifysgol Agored yn dathlu’n deugainmlwyddiant ym 2009/10. Ebrill 23ain yw deuganmlwyddiant y Siartr Brenhinol wnaeth sefydlu’r Brifysgol Agored. Yn ystod y flwyddyn bydd yna digwyddiadau i gofnodi 40 mlynedd o hysbrydoli dysgu.
Roedd y Siartr yn sefydlu Brifysgol Agored ar gyfer hybu dysgu a gwybodaeth gan dysgu ac ymchwil trwy dulliau amrwyiol darlledu a technolegol.
Am mwy o wybodaeth darllenwch y pac atodedig ynglyn ar deugainmlwyddiant, gyda ffeithiau a ffigurau ynglyn a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, manylion digwyddiadau’r penblwydd a llawer mwy. Am adnoddau pellach, ymwelwch a www.open.ac.uk/media
26 Mawrth 2009
Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddolenni ynglyn a’r cynydd cyffrous yn y nifer o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru, adroddiad ar y cynhadledd yBA/RCN Cymru diweddar a sut i fynd yn wyrdd gyda’r BA.
Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mawrth 2009
topMawrth 12fed 2009
Efallai eich bod yn cofio 1969 fel y flwyddyn pan aeth dyn i'r lleuad gyntaf, pan gafodd Richard Nixon ei ethol yn Arlywydd neu pan chwaraeodd y Beatles eu gig olaf enwog ar ben adeilad Apple. Ond roedd 1969 hefyd yn flwyddyn a dorrodd dir newydd ym maes addysg uwch yn y DU gyda sefydliad y Brifysgol Agored.
Bydd Cangen Hwlffordd Cymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored (OUSA) yn dathlu 40 mlynedd ers Diwrnod Siarter y Brifysgol - 23ain Ebrill - drwy gynnal cinio ym Mwyty'r Harbourmaster, Aberdaugleddau. Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, fydd y gwestai arbennig a bydd yn cyflwyno cipolwg ar ddyfodol y Brifysgol a phwysigrwydd cynyddol astudiaethau rhan amser, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
Ar agor ers 40 mlynedd - Y Brifysgol Agored yn dathlu ei phen-blwydd gyda digwyddiad yn Sir Benfro
topMawrth 12fed 2009
Gall y chwyldro digidol olygu mwy i Gymru na blwch pen-set sy'n cynnig cannoedd o sianeli teledu sy'n ailddarlledu Only Fools and Horses neu gyfresi diddiwedd o raglenni teledu o’r UD yn y 1970au. I aralleirio comandwyr y Six Million Dollar Man, "Gallwn wella sgiliau'r wlad hon. Mae gennym y dechnoleg".
Erthygl y Western Mail - Mawrth 12fed 2009
topMae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar fanteision cynhwysiant digidol i addysg. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig, i'r potensial sydd gan dechnoleg ddigidol i wella'r cysylltiadau rhwng addysg (uwch) a'r economi, cynyddu mynediad i ddeunyddiau a chyfleoedd dysgu, cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu i safon uchel, a gallu Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i gystadlu yn y farchnad fyd-eang a rôl y llywodraeth mewn perthynas â'r uchod.
Cynhwysiant Digidol yng Nghymru
top26 Chwefror 2009
Dyma’r ail o fwletinau newyddion misol newydd y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion a ddolenni ynglyn a chyflogadwydd raddedigion y Brifysgol Agored, ymateb y Brifysgol i ymgynghoriad cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru a weithgareddau Darwin.
Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Chwefror 2009
top17 Chwefror 2009
Mae ein sylwadau'n canolbwyntio ar gwestiynau diweddarach yr ymgynghoriad, sef y rhai sy'n ymwneud â buddsoddi yn y sector addysg uwch a sut mae myfyrwyr yn cael budd.
Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cefnogi'r cynigion a roddir yn y ddogfen yn gyffredinol, ond nodwn fod yr ymgynghoriad hwn ond yn ymwneud ag israddedigion llawn amser a bod Cam 2 o'r Adolygiad Addysg Uwch yn ystyried rôl arwyddocaol gynyddol myfyrwyr rhan amser yng Nghymru .
YMGYNGHORIAD CYLLID MYFYRWYR – Ymateb y Brifysgol Agored yng Nghymru
top4 Chwefror 2009
Dathlwch ben-blwydd Charles Darwin yn 200 (12fed Chwefror) drwy weld sut y byddech chi a'ch ffrindiau wedi edrych filiynau o flynyddoedd yn ôl gyda'r adnodd newid wyneb difyr Devolve Me, ar wefan Darwin y Brifysgol Agored www.openuniversity.co.uk/darwin
Drwy roi llun ar Devolve Me, gallwch fynd yn ôl mewn amser i weld sut fyddech chi wedi edrych fel Australopithecus afarensis (3.7 o filiynau o flynyddoedd yn ôl), fel Homo habilis (2.2 o filiynau o flynyddoedd yn ôl), fel Homo erectus (1.8 o filiynau o flynyddoedd yn ôl) neu fel Homo heidelbergensis (500,000 o flynyddoedd yn ôl).
Esblygwch eich hun: Mynd yn ôl mewn amser gyda Darwin a'r Brifysgol Agored
top16 Ionawr 2009
Hwn yw'r cyntaf o fwletinau newyddion misol newydd y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion a ddolenni i berfformiad ymchwil “radd-flaenaf” y brifysgol, manylion y diwrnod agored astudio ôl-raddedig cyntaf yng Nghymru a wefan newydd y brifysgol i helpu weithwyr i oresgyn y dirwasgiad.
Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Ionawr 09
top4ydd Rhagfyr 2008
Beth sy'n digwydd nesaf ar ôl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen orffen ei dasg? Wel os yw yng Nghymru mae'n rhaid... cynnal ymgynghoriad!
Dyna'r her - a'r cyfle - uniongyrchol sy'n wynebu addysg uwch yng Nghymru yn dilyn ymateb y Llywodraeth i adroddiad AU yr Athro Merfyn Jones.
Ac mae'n gyfle i'w groesawu i lunio llwybr ar gyfer prifysgolion, myfyrwyr a'r economi a all "ehangu mynediad, helpu i fynd i'r afael â dyled myfyrwyr, a rhoi hwb buddsoddi sylweddol", fel y rhagwelwyd i gyd gan y Gweinidog dros Addysg.
Erthygl Western Mail y PA ar yr adolygiad AU
topCyn datganiad y Gweinidog ar Addysg Uwch heddiw, y disgwylir iddo ymateb i adroddiad cam cyntaf y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Addysg Uwch, dywedodd Dewi Knight, rheolwr polisi y Brifysgol Agored yng Nghymru:
"Mae buddiannau astudio Addysg Uwch yn rhan amser yn rhan annatod o allu Cymru i addasu i'r hinsawdd economaidd bresennol a'r hinsawdd yn y dyfodol.
"Mae'n rhaid i gamau gweithredu'r Llywodraeth ynghylch rôl, diben a chost addysg uwch - o dan yr amodau economaidd presennol - gydnabod demograffeg gyfnewidiol Cymru a sicrhau bod addysg uwch yn offeryn ar gyfer economi sgiliau uwch hyblyg.
"Mae angen gweithlu sgiliau uwch hyblyg ar economi sgiliau uwch hyblyg. Gyda 70% o weithlu 2020 eisoes o oedran gweithio, mae'n rhaid hybu addysg uwch fel cyfle gydol oes. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithlu, astudio'n rhan amser yw'r unig ddewis ar gyfer dilyn cwrs addysg uwch. Mewn unrhyw drafodaeth ynglŷn â chost addysg uwch i fyfyrwyr, mae'n rhaid i ni gydnabod bod 40% o fyfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru eisoes yn astudio'n rhan amser, ac wrth i'r Llywodraeth bwysleisio ehangu mynediad, mae'r ffigur hwnnw yn debygol o gynyddu.
"Fel yr eglurodd Adolygiad Graham, mae parch cydradd rhwng astudio'n rhan amser ac yn llawn amser yn bwysig o ran cydbwyso ffordd ymlaen ar gyfer addysg uwch yng Nghymru."
31 Mawrth 2008
Yn ogystal â’i rôl uchel ei phroffil yn paratoi’r ffordd ar gyfer refferendwm ar sefydlu senedd â phwerau deddfu llawn i Gymru, mae Syr Emyr Jones Parry bellach yn gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhyngwladol newydd ar gyfer Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored (OUBS). Ar hyn o bryd mae dros 600 wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau OUBS yng Nghymru, a ddefnyddir gan unigolion a chwmnïau i wella eu sgiliau busnes.
Cyn-lysgennad y Cenhedloedd Unedig â rôl flaenllaw yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored
top7 Mawrth 2008
Mae gan y rhan fwyaf ohonom frodyr neu chwiorydd, neu bobl sy’n ‘union fel brawd neu chwaer’ – ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn cadw mewn cysylltiad â nhw, bob yn hyn a hyn o bosib, a hynny gydol ein bywyd. Pam? Fel rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Gymdeithasol ESRC, mae ymchwilwyr yn gwahodd y cyhoedd i ymweld â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i’w helpu i gasglu tystiolaeth am rôl brodyr a chwiorydd yn ein bywydau.
6 Mawrth 2008
Fe fydd newid yn y sefyllfa addysg gofal iechyd yng Nghymru yn dilyn lansio cynghrair strategol rhwng Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Bydd cyfle i ddathlu’r bartneriaeth newydd hon mewn digwyddiad a gynhelir yn y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru nos Lun, 10 Mawrth. Llywydd y noson fydd Jonathan Morgan, AC sy’n Gadeirydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol.
Partneriaeth newydd yn newid byd addysg gofal iechyd yng Nghymru
top3 Mawrth 2008
Disgwyliwch fflachiadau a chlec neu ddwy yng Ngŵyl Wyddoniaeth Wrecsam eleni pan fydd gwyddonwyr Y Brifysgol Agored, Rob Janes a Mike Batham yn gwahodd eu cynulleidfa i archwilio Swyngyfaredd Ocsigen.
Y Brifysgol Agored yn dod â chlec, fflach a chwmwl o fwg i ymweld â Gŵyl, Wyddoniaeth Wrecsam 2008
top29 Tachwedd 2007
Bydd gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y sector cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn gallu manteisio ar bartneriaeth newydd i gynnig yr addysg a’r hyfforddiant angenrheidiol i fynd i’r afael â’r heriau ym maes cyfiawnder ieuenctid, a datblygu’r wybodaeth broffesiynol a’r sgiliau y mae eu hangen ar staff.
Cynghrair Newydd yn garreg filltir i Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru
top6 Mai 2007
Mae cyfleusterau astudio newydd yng nghanol y ddinas wedi agor yng Nghaerdydd ar gyfer myfyrwyr gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru.
Wedi’i lleoli yn agos at y brif orsaf reilffordd yn Natblygiad Dewi Sant 2 Caerdydd, mae’r ganolfan astudio newydd ar lawr gwaelod adeilad Tŷ UNSAIN sy’n gyfagos i swyddfeydd newydd Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad yn rhan o symudiad, gostiodd £5 miliwn, i adeiladau mwy gweladwy a mwy hygyrch ynghanol y Ddinas.
Mae’r ganolfan astudio yng Nghaerdydd yn ymuno â rhwydwaith o ganolfannau astudio ledled Cymru, a ddefnyddir i gynnal cyfarfodydd, sesiynau tiwtorial ac arholiadau gan gynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn eu hastudiaethau rhan-amser.
Mae drysau’n agor hefyd i’r 369 o fyfyrwyr ledled Cymru sydd eisoes wedi defnyddio cyfleusterau a deunyddiau’r Brifysgol Agored yn llwyddiannus i gwblhau eu hastudiaethau gradd. Dathlwyd eu cyflawniadau’r penwythnos hwn (5 Mai) gyda chyfeiliion, teuluoedd, cyflogwyr a thiwtoriaid mewn seremoni raddio yn Neuadd Dewi Sant, oedd yn orlawn.
12 Gorffennaf 2007
Mae gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru dasg i ddod o hyd i 25 unigolyn talentog.
Chwilio am ‘arch-arwyr’ dosbarth y dyfodol
top20 Mehefin 2007
Ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin dyfarnwyd tystysgrifau Y Brifysgol Agored yng Nghymru i ddeg athro Cymreig
Deg yn derbyn her ‘Addysgu Eto’
top4 Ebrill 2007
Gallai bron i 20% o oedolion yng Nghymru elwa o femorandwm dealltwriaeth (MD) a arwyddwyd rhwng TUC Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru (yr OU) yng Nghaerdydd heddiw (Dydd Mercher 4 Ebrill 2007).
21 Mai 2007
Mae'r Brifysgol Agored yn lansio cwrs newydd mewn Eidaleg i gychwynnwyr - L195 Andante.
22 Mai 2007
Yr wythnos hon mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru'n croesawu arbenigwr mewn addysg oedolion yn gyfarwyddwr newydd.