The Open UniversitySkip to content
 

On this page

The Open University in Wales

Newyddion a gwybodaeth cyfarwyddo


top

Datganiad i'r Cyfryngau

Mai 2013

Gweithwyr cymunedol Dulais yn derbyn graddau er anrhydedd gan y Brifysgol Agored
Mae dau weithiwr cymunedol o Ddyffryn Dulais sy'n rhedeg "canolfan datblygu ac adfywio cymunedol arloesol" wedi derbyn graddau er anrhydedd gan y Brifysgol Agored yng Nghymru yn y seremoni raddio eleni.


Cafodd Julie Bibby a Lesley Smith sy'n rhedeg gweithdy DOVE (Cyfleoedd ar gyfer Menter Wirfoddol Dulais) yn Nyffryn Dulais eu hanrhydeddu am eu cyfraniad sylweddol i wasanaethau cyhoeddus, addysg a diwylliant yng Nghymru.

Dyma a ddywedodd Julie a Lesley wrth dderbyn eu gwobrau yn y seremoni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd:
"Mae'n bleser gennym dderbyn y wobr hon ar ein rhan ni ein hunain, y tîm yn DOVE a'r gymuned.
"Mae derbyn y wobr hon a chael cydnabyddiaeth am y gwaith rydym yn ei wneud yn DOVE yn adlewyrchu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a gweithio gyda'n cymuned. ”

Datganiad i'r Cyfryngau

top

Ymchwil newydd i brofiadau ac effaith economaidd myfrywyr rhan-amser

Ebrill 2013

Bydd darn o ymchwil arloesol yn edrych i mewn i brofiadau a manteision economaidd astudio rhan-amser yng Nghymru. Mae’r ymchwil yn brosiect ar y cyd rhwng Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Bydd yr ymchwil yn cynnwys arolwg o fyfyrwyr rhan-amser sy’n astudio yng Nghymru gyda’r nod o ganfod eu profiadau llawn ac ystyried sut mae’r dull yma o astudio yn effeithio ar yr economi yn ehangach.

Lawnsiwyd yr ymchwil ar y cyd gan Lywydd UCM Cymru, Stephanie Lloyd a Chyfarwyddwr Cynorthwyol y Brifysgol Agored yng Nghymru, Simon Horrocks yn nigwyddiad Cyfeiriadau at y Dyfodol ar gyfer addysg uwch rhan-amser yng Nghymru.

Ymchwil newydd i brofiadau ac effaith economaidd myfrywyr rhan-amser

top

Cyfeiriadau addysg uwch rhan amser

26 Ebril 2013 o 10:30 ymlaen. Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

I fyfyrwyr, cyflogwyr a'r economi, mae astudiaethau rhan amser yn rhan hanfodol o dirwedd addysg uwch Cyrmu. Bydd y gynhadledd undydd hon yn archwilio lle mae'r sector erbyn hyn, a sut bydd angen iddo newid yn y dyfodol.

Prif siaradwyr: Leighton Andrews AC (Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru)
Martin Bean (Is-ganghellor, y Brifysgol Agored)

I gadw eich lle am ddim yn y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost: Wales-external-affairs@open.ac.uk erbyn

top

Y Brifysgol Agored yn cyhoeddi ffioedd i israddedigion yng Nghymru

Tachwedd 2011

Mae'r Brifysgol Agored wedi cyhoeddi heddiw y bydd ffioedd i israddedigion yng Nghymru yn aros ar y lefelau cyfredol ynghyd â chwyddiant ar gyfer y flwyddyn academaidd 2012/13. Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr yn talu £1,610 ar gyfartaledd ar gyfer 120 o gredydau astudio (sy'n cyfateb i flwyddyn yn astudio'n llawn amser). Mae llawer o fyfyrwyr yn astudio ar sail modiwlau, a phris modiwl safonol â 60 o gredydau fydd £735.

Yn wahanol i unrhyw brifysgol arall, mae'r Brifysgol Agored yn gweithredu'n llwyddiannus ym mhob un o bedair gwlad y DU ac mae wedi cyflwyno ffioedd gwahaniaethol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan adlewyrchu'r lefelau cyllido gwahanol ym mhob gwlad. Wrth bennu ei ffioedd ledled y DU, mae'r Brifysgol Agored wedi ystyried cyllid y llywodraeth ac wedi cadw ffioedd mor isel â phosibl tra'n cynnal ansawdd uchel a chadw at ei nod o fod yn agored i bawb.

Mae 10,000 o fyfyrwyr o bron pob cymuned yng Nghymru yn astudio gyda'r Brifysgol Agored, sef prif ddarparwr astudiaethau israddedig rhan amser y wlad. Yn 2011, am y seithfed flwyddyn yn olynol, daeth y Brifysgol Agored yn gyntaf yng Nghymru yn yr Arolwg Boddhad Myfyrwyr Cenedlaethol.

Bydd y Brifysgol Agored yn cyhoeddi ei ffioedd ar gyfer ôl-raddedigion cyn bo hir.

Rhagor o wybodaeth

Dewi Knight
Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Wales-external-affairs@open.ac.uk

top

Seithfed nef i'r Brifysgol Agored yng Nghymru - yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Seithfed nef i'r Brifysgol Agored yng Nghymru - yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Y Brifysgol Agored yw'r brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr o hyd, yn ôl canlyniadau'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, a gyhoeddir heddiw (17eg Awst 2011).

Dengys y canlyniadau fod 92% o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru yn dweud eu bod yn "fodlon ar ansawdd eu cwrs", gyda'r Brifysgol Agored yr unig sefydliad addysg uwch yng Nghymru i sgorio dros 90%.

Seithfed nef i'r Brifysgol Agored yng Nghymru - yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

top

Safbwynt y Brifysgol, Western Mail Gorffennaf 2011

"Mae'n rhy gynnar i ddweud" oedd ateb enwog Zhou Elai yn 1972, wrth i Brif Weinidog a Gweinidog Tramor Tsiena asesu effaith y Chwyldro Ffrengig. Er bod adroddiadau diweddar yn awgrymu bod Zhou Elai, ac yntau'n gefnogwr i'r Cadeirydd Mao dros gyfnod hir yn cyfeirio mewn gwirionedd at brotestiadau'r myfyrwyr yn 1968 yn hytrach na digwyddiadau 1789, tybiwyd ers tro bod y dehongliad enwocach yn enghraifft o allu'r Tsieniaid i gael golwg hirdymor ar yr hyn sy'n ymddangos yn newidiadau radicalaidd.

Mae cyflymder newidiadau ym maes addysg uwch yng Nghymru yn golygu bod unrhyw gipolwg ar y sefyllfa bresennol a chynlluniau ar gyfer y dyfodol yn prysur ddyddio, wrth i'r sefyllfa newid o hyd yn sgîl achosion o uno, ac adroddiadau a datganiadau gan Weinidogion. Gall fod yn "rhy gynnar i ddweud" ond mae'n hen bryd dechrau gweithredu ac ymgysylltu.

top

HUW EDWARDS YN ADRODD HANES CYMRU

Huw Edwards

Bydd cyflwynydd News at Ten y BBC, Huw Edwards, yn adrodd hanes Cymru o'r cyfnod cynhanes i'r oes fodern mewn cyfres deledu bwysig gan Green Bay Media a gomisiynwyd gan BBC Cymru.

Caiff y gyfres ei chynhyrchu mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored - y cydweithrediad uniongyrchol cyntaf â BBC Cymru i gael arian gan y Brifysgol Agored. Bydd y gwaith ffilmio'n dechrau yn ystod haf 2011.
Bydd Huw yn mynd i'r afael â hanes Cymru yn The Story of Wales, cyfres chwe rhan a gaiff ei darlledu ar BBC One Wales ar ddechrau 2012.
Bydd The Story of Wales yn dechrau drwy ail-greu'r gladdfa ddynol hysbys cyntaf yng Ngorllewin Ewrop - "Dynes Goch" Pafiland, 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Bydd ei stori epig yn cynnwys Hywel Dda yn uno Cymru o dan un gyfraith, y Cymry a'u rhan ganolog yn llys y Tuduriaid, y newidiadau syfrdanol a welwyd yn y wlad wrth i byllau glo a gweithfeydd haearn ffynnu gydag arloesedd technolegol ac addysgol yn sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol, hyd at ddatganoli heddiw.

HUW EDWARDS YN ADRODD HANES CYMRU

top

OUiW response to Government part-time student support statement

Responding to the Welsh Government’s statement on part-time HE student support, Rob Humphreys, Director of The Open University in Wales, said:

“The government’s commitment to equitable treatment of part and full-time students is not only a welcome point of principle, but a policy that should further promote the flexibility, social justice and economic development that part-time higher education delivers for Wales.

“80% of OU students work whilst studying, contributing to the economy both through their taxes and their actions in retraining and reskilling. It is right that they, and the four in ten of students in Wales that study part-time, have a similar level of support for the cost of learning as full-time students.

“We look forward to working with the Welsh Government and HEFCW in ensuring that this public investment in higher-education allows providers such as The OU in Wales, that commit to part-time opportunities, can continue to deliver in widening participation and skill development.”

top

Dysgwyr sy'n oedolion er gwaethaf yr anawsterau

Hafal Group

Ni all dallineb na salwch meddwl difrifol atal dysgwyr penderfynol sy'n oedolion, ac mae myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi profi hynny.
Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi ffurfio partneriaeth â Hafal, sy'n elusen iechyd meddwl genedlaethol, i annog unigolion sy'n gwella o salwch meddwl difrifol i astudio.
Yn y gwobrau Ysbrydoli!, a drefnwyd gan NIACE Dysgu Cymru sy'n hyrwyddo dysgu ymhlith oedolion yng Nghymru, enillodd pedwar o fyfyrwyr Hafal wobr (darlun ohonynt uchod).

Dysgwyr sy'n oedolion er gwaethaf yr anawsterau

top

Y DJ Huw Stephens yn dod yn un o Ddoethuriaid er Anrhydedd y Brifysgol Agored

Huw Stephens

Mae Huw Stephens, un o DJs BBC Radio 1 a sefydlydd Gŵyl Sŵn sy'n hanu o Gaerdydd, wedi cael Gradd er Anrhydedd y Brifysgol Agored am ei 'Gyfraniad eithriadol at addysg a diwylliant'.

Roedd Huw ymhlith un o'r 300 o bobl a gafodd radd mewn seremoni ddydd Sadwrn yn Neuadd Dewi Sant, canol Caerdydd.

7th May 2011

Y DJ Huw Stephens yn dod yn un o Ddoethuriaid er Anrhydedd y Brifysgol Agored

top

Golwg Prifysgol, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ebrill 2011

Pleidiau'n rhoi sylw i addysg ran-amser yn eu maniffestos

Gyda 40,000 o bobl yng Nghymru'n dilyn cyrsiau addysg uwch ran-amser ar hyn o bryd, maent yn etholaeth fawr o ddarpar bleidleiswyr yn Etholiad Cyffredinol Cymru eleni. Mewn gwirionedd, mae nifer y myfyrwyr rhan-amser, sef 40,000, yn eithaf tebyg o ran maint i rai etholaethau gwirioneddol yng Ngogledd Cymru.

Golwg Prifysgol, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ebrill 2011

top

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cefnogi dathliad 'Dinasyddion Gweithgar' y Dwyrain Canol yng Nghaerdydd

Active Citizens: Hugh Mackay

Ymunodd gwesteion o Jordan a'r Aifft yn y dathliad cenedlaethol ar gyfer rhaglen Merched yn Gwneud Gwahaniaeth Cymru yn Mansion House yng Nghaerdydd yn ddiweddar, fel rhan o brosiect 'Dinasyddion Gweithgar' y Cyngor Prydeinig.

Cyflwynwyd cwrs a llyfr 'Cymru Gyfoes' ('Contemporary Wales') y Brifysgol Agored fel rhan o ffocws y noson ar dreftadaeth amlddiwylliannol Cymru, a rhoddwyd copïau o'r llyfr i'r ymwelwyr o'r Dwyrain Canol.

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cefnogi dathliad 'Dinasyddion Gweithgar' y Dwyrain Canol yng Nghaerdydd

top

HAWL I HOLI ETHOLIAD CYFFREDINOL CYMRU

Flyer

Cyfle heb ei ail i ofyn eich cwestiynau i gynrychiolwyr o’r pedair prif blaid, gan gynnwys y Weinidog Addysg Leighton Andrews AC
Pryd: 16/04/2011 10.30am - 12.30pm
Ble: Canolfan Cenedlaethol Y Brifysgol Agored yng Nghymru
18 Custom House St
canol ddinas Caerdydd
CF10 1AP
Mae niferoedd yn gyfyng, felly archebwch eich lle mor gynted a
phosib (man pellach y 11eg o Ebrill) gyda’ch cwestiwn(au)
T: 02920 235277
E: c.dawkes@swales.wea.org.uk

top

Gwleidyddiaeth Bleidiol fel ydoedd yn 1999 – Dychwelyd i Etholiad Cymru

Beth oedd 1999 yn golygu i chi? Ofn ynglyn a Fyg y Mileniwm, Cymru’n croesawu Cwpan Rygbi’r Byd a’r etholiad cyffredinol Cymreig cyntaf erioed?

Os taw’r olaf o rheiny sy’n sefyll allan, neu hyd yn oed eich fod yn adnabod fel blwyddyn cyntaf y Cynulliad ond wedi anghofio’r ymgyrch, fydd prosiect gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru dros y 6 wythnos nesaf o diddordeb.

Bydd ‘Dychwelyd i 99’ (99 Rewind) yn rhedeg yn ystod ymgyrch 2011 ac yn adlewyrchu ymgyrch 1999, yn trydar (dau neu tri y dydd – yn ddwyieithog) newyddion o etholiad 1999 a digwyddod ar yr un pryd yn ystod y cylch etholiadol hwn, gan adlewyrchu lle mae ymgyrch 2011 yn atsain ymgyrch 1999 ac amlygu’r hyn sy’n gwneud Alun – Rod – Dafydd – Mike yn wahanol i Carwyn – Nick – Ieuan – Kirsty.

Byddwn hefyd yn cynnwys blogiau newydd a chynnwys arall gan academyddion a ffigural allwedol yng nghwleidyddiaeth Cymru ar ein wefan aroloesol OpenLearn, i gefnogi dysgu pellach ynglyn a ddatganoli, etholiadau Cymru a gwleidyddiaeth cyffredinol i gynulleidfa byd-eang. Bydd y prosiect hefyd yn hyrwyddo adnoddau (am ddim), megis podlediadau, fideos ac gwaith o cyrsiau’r Brifysgol Agored ‘Deall Cymru Gyfoes’, “Gwlad Bach, Hanes Mawr: themau yn hanes Cymru’ a modiwlau ‘Gwyddorau Cymdeithasol’.

Ar trydar www.twitter.com/OUcymru a #OU_99walesrwd
Hafan ‘Dychwelyd i 99:’ www.openuniversity.co.uk/dychwelyd99
OpenLearn Gwleidyddiaeth: www.open.ac.uk/openlearn/society/politics-policy-people

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a:
Dewi Knight
02920 262 708
07919915868
d.n.knight@open.ac.uk

top

Gwobr glodwiw i'r Brifysgol Agored

Golwg Prifysgol, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, Ionawr 2011

Gyda'r tymor gwobrwyo ar ei anterth, o'r Golden Globes i'r Baftas a'r noson fawr yn Hollywood ymhen ychydig wythnosau, cafodd prifysgolion eu noson fawr eu hunain ychydig cyn y Nadolig pan gynhaliwyd seremoni fawreddog Gwobrau Addysg Uwch y Times (THE).

Golwg Prifysgol Ionawr 2011

top

Y Brifysgol Agored ac UNSAIN yn ennill gwobr am ehangu cyfranogiad

9th Dec 2010

Mae'r bartneriaeth rhwng y Brifysgol Agored ac UNSAIN wedi'i henwi yn Fenter Ehangu Cyfranogiad y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times.

Lluniwyd y bartneriaeth i gynyddu cyfranogiad mewn addysg ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus a hyd yn hyn mae wedi helpu dros 5,500 o bobl i gael mynediad i gyrsiau a hyfforddiant gyda'r Brifysgol Agored.

Mae gwaith y Brifysgol Agored gydag UNSAIN yng Nghymru wedi arwain at noddi 700 o ddysgwyr yn y tair blynedd diwethaf. Anogir dysgwyr i astudio unrhyw bwnc cwrs byr, i sicrhau ymgysylltiad cychwynnol pwysig â dysgu addysg uwch. Wedyn fe'i defnyddir fel llwyfan i symud ymlaen i gyrsiau 60 pwynt, sy'n fwy perthnasol i'w cyflogaeth.

Y Brifysgol Agored ac UNSAIN yn ennill gwobr am ehangu cyfranogiad

top

Y Brifysgol Agored yng Nghymru - y brifysgol gyntaf i ennill Gwobr Ansawdd TUC

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi ennill 'Gwobr Ansawdd' gan TUC Cymru am ei gweithgareddau ymgysylltu â dysgwyr undebau llafur - y brifysgol gyntaf i ennill yr anrhydedd honno gan ffederasiwn cenedlaethol yr undebau.

Cyflwynwyd y wobr yng nghynadleddau Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau TUC Cymru yng Nghaerdydd a Wrecsam yn ystod yr wythnos diwethaf, a chyfeiriwyd yn benodol at raglen o gyrsiau byr, rhagarweiniol y Brifysgol Agored, sef 'Cychwyn'. Cyflwynwyd y wobr gan swyddogion cenedlaethol TUC Cymru, Julie Cook a Marion Burke.

Y Brifysgol Agored yng Nghymru - y brifysgol gyntaf i ennill Gwobr Ansawdd TUC

top

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn gofalu am bartneriaeth genedlaethol

Fforwm Gofal Cymru

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi cytuno ar bartneriaeth genedlaethol â Fforwm Gofal Cymru yn ei chinio gwobrwyo blynyddol yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Mae Fforwm Gofal Cymru yn sefydliad di-elw sy’n cynrychioli darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru, gan weithio gyda’r llywodraeth a'r sector cyhoeddus. Mae ganddo 550 o aelodau, o’r sector preifat a’r sector gwirfoddol, sy’n ymwneud â rhedeg cartrefi gofal, canolfannau gofal dydd, gwasanaethau help yn y cartref a chyfleusterau gofal seibiant i oedolion a phlant ledled Cymru.

Fforwm Gofal Cymru

top

Ynol i'r dyfodol gyda Browne, Thatcher a glowyr

Golwg Prifysgol, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, mis Hydref 2010

28ain Hydref 2010

Ar yr olwg gyntaf, nid ymddengys fod fawr o gysylltiad rhwng y straeon mawr sydd wedi mynnu sylw'r penawdau y mis hwn. Arian prifysgolion ac ymdrech i achub glowyr oedd ar y brig, ac er mai copr oedd yn cael ei gloddio, gellid dadlau mai Dynes Haearn benodol oedd y cysylltiad rhyngddynt.

Gyda'r Fonesig Thatcher yn dathlu ei phen-blwydd yn 85 oed ychydig ddiwrnodau yn ôl, roedd dylanwad y ferch gyntaf i gael ei hethol yn Brif Weinidog Prydain yn destun trafod yn y papurau newydd, bwletinau a blogiau.

Golwg Prifysgol, Y Brifysgol Agored yng Nghymru, mis Hydref 2010

top

Ymateb Ymgynghoriad: Sicrhau Cynhwysiant Digidol

OU iPod

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn ystyried bod cynhwysiant digidol yn fater pwysig iawn, fodd bynnag, rydym hefyd yn poeni y gall lefelau gwahanol o fynediad at dechnoleg a sgiliau cysylltiedig waethygu rhaniadau cymdeithasol ac allgáu cymdeithasol (economaidd ac addysgol) a chreu rhai newydd hyd yn oed. Mae hyn yn berygl arbennig o ran sgiliau lefel uchel a gallu'r rhai mwyaf difreintiedig i gael gafael ar gyfleoedd i ddysgu (ac i fynd ymlaen i weithio a chyfrannu at yr economi ar lefel leol a chenedlaethol).

Ymateb Ymgynghoriad: Sicrhau Cynhwysiant Digidol

top

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

Students

Y Brifysgol Agored yw'r brifysgol orau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr, yn ôl canlyniadau'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol, a gyhoeddwyd heddiw (18fed Awst 2010).
Dengys y canlyniadau gynnydd o 3% yng ngraddfeydd boddhad y Brifysgol Agored yng Nghymru, a nododd 94% o fyfyrwyr (yng Nghymru) eu bod yn 'fodlon ar safon eu cwrs'. Hon yw'r chweched flwyddyn yn olynol mae myfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru yn fwy bodlon ar ansawdd eu haddysg uwch na'r rhai mewn unrhyw brifysgol arall yng Nghymru.

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn parhau ar y brig o ran boddhad myfyrwyr

top

Cynydd o 45% yn myfyrwyr ifanc yn astudio gyda’r Brifysgol Agored

Young Students

Disgwylir canlyniadau safon Uwch yr wythnos nesaf ac mae prifysgolion eisoes yn datgan eu bod yn llawn, ac eto mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 45% yn nifer y bobl rhwng 18 a 24 oed sy'n chwilio am lwybr gwahanol i ennill gradd.

Cynydd o 45% yn myfyrwyr ifanc yn astudio gyda’r Brifysgol Agored

top

Plannu syniadau ar gyfer addysg uwch rhan-amser

Western Mail, ‘University View’, Gorffennaf 2010

Yn hytrach na dwyn syniad, mae'n rhaid i arbenigwyr ysbïo corfforaethol ffilm ddiweddaraf Leonardo DiCaprio 'Inception' ddefnyddio eu sgiliau a'u twyll i blannu syniad er mwyn newid diwydiant. Efallai nad yw gwleidyddiaeth addysg uwch yng Nghymru mor hudolus â'r byd a gaiff ei bortreadu ar y sgrîn gan Michael Caine, Ellen Page a DiCaprio, ond nid yw plannu, meithrin a blodeuo syniadau er mwyn newid y sector a pholisïau ar gyfer prifysgolion a myfyrwyr, ledled y wlad yn ddieithr i Leighton Andrews. Ac mae'r brys gwyllt hwn yr un mor drawiadol â'r effeithiau arbennig sydd wedi synnu cynulleidfaoedd 'Inception' mewn sinemâu ledled y byd.

University View Gorffennaf 2010

top

Y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn cytundeb ffurfiol ag AB a'r Cyfarwyddwr i gadeirio adolygiad y llywodraeth

CholegauCymru

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â CholegauCymru, y corff ymbarél ar gyfer colegau addysg bellach yng Nghymru. Mae'r cytundeb, a lansiwyd yn ffurfiol yng nghynhadledd flynyddol ddiweddar ColegauCymru, yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol Agored ac addysg bellach yng Nghymru i ehangu mynediad a gwella gweithgarwch datblygu'r gweithlu.

Y Brifysgol Agored yng Nghymru mewn cytundeb ffurfiol ag AB a'r Cyfarwyddwr i gadeirio adolygiad y llywodraeth

top

Ymateb Ymgynghoriad: Rhaglen Adnewyddu'r Economi

Money

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn croesawu'r cyfle hwn i gyfrannu at ymgynghoriad y llywodraeth ar Raglen Adnewyddu'r Economi. Mae ein hymateb yn canolbwyntio ar gyfraniad addysg uwch, yn enwedig astudio'n rhan amser ac ehangu mynediad, y seilwaith ar gyfer gweithlu ac economi sgil uchel a chystadleuol a'r berthynas rhwng y llywodraeth, addysg uwch a'r economi.

Ymateb Ymgynghoriad: Rhaglen Adnewyddu'r Economi

top

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnal seminar i ddathlu Wythnos Gofalwyr

Carers Seminar

Ar ddechrau Wythnos Gofalwyr cynhaliodd y Brifysgol Agored yng Nghymru seminar fywiog ar gyfleoedd dysgu i bobl anabl a gofalwyr yn ei chanolfan genedlaethol yng Nghaerdydd.
Ar ddiwrnod cyntaf y digwyddiad a'r dathliadau a gynhaliwyd ledled y DU, o dan y thema 'Fy mywyd fy hun', daeth staff o'r Brifysgol Agored, gofalwyr a sefydliadau anabledd, a myfyrwyr, at ei gilydd i drafod sut y gall mynediad i ddysgu helpu gofalwyr a phobl anabl i fyw 'eu bywyd eu hunain' .

Y Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnal seminar i ddathlu Wythnos Gofalwyr

top

Y Brifysgol Agored yn manteisio ar wyliau haf

Eisteddfod 2010

Tra bod Cwpan y Byd yn mynd rhagddo, mae tymor gwyliau haf Cymru hefyd wedi dechrau. Denodd Gŵyl y Gelli ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddegau o filoedd o ymwelwyr, ac aeth y Brifysgol Agored yng Nghymru â byd ysbrydoli dysgu i dref y Gelli Gandryll a maes un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop.

Y Brifysgol Agored yn manteisio ar wyliau haf

top

Llwyddiant dwbl i fyfyrwyr y Brifysgol Agored

Katrina Sumner

Cafodd y Brifysgol Agored yng Nghymru noson lwyddiannus yng Ngwobrau Ysbrydoli Dysgwyr sy'n Oedolion a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd nos Iau.

Enillodd Tracey Hudson o Gaerdydd wobr Dysgwr y Flwyddyn mewn AU ac enillodd Katrina Sumner wobr Dysgwyr y Flwyddyn o Bell. Trefnir y gwobrau cenedlaethol gan NIACE Dysgu Cymru, sy'n dathlu 25 o flynyddoedd yn hyrwyddo dysgu oedolion yng Nghymru, ac sy'n cydnabod cyflawniadau dysgwyr sy'n ysbrydoledig neu sydd wedi newid bywydau.

Llwyddiant dwbl i fyfyrwyr y Brifysgol Agored

top

Pan fod yr etholiad cyffredinol yn etholiad myfyrwyr

Western Mail, ‘University View’, Ebrill 2010

Mae'r dadleuon ar y teledu'n achosi cynnwrf, mae taflenni'n gollwng drwy'r blwch llythyrau ac mae posteri wedi dechrau ymddangos mewn gerddi a ffenestri. Mae ymgyrch yr etholiad ar ei hanterth ac mae pynditiaid yn rhagfynegi mai hon fydd yr agosaf ers 1992 ac yn chwilio am gymariaethau rhwng y ddwy ymgyrch.

University View April 2010

top

Barod am yr her "Cymru Gyfan"

University View, Western Mail, Ionawr 2010

Wrth i Rhodri Morgan gamu i lawr o awenau Llywodraeth Genedlaethol Cymru, roedd llawer o'r dathliadau ffarwel yn llongyfarch cyn Brif Weinidog Cymru ar lywio datganoli drwy'r cyfnod anodd cychwynnol a'i angori fel rhan dderbyniol o fywyd yng Nghymru, gan gymryd ysbrydoliaeth o'i adduned ei hun i fod "yn Gynulliad y bobl, nid y sefydliad". Gyda chymysgedd o bersbectif personol, pellter amlwg rhwng y weithrediaeth a'r Cynulliad ac uchelgais am orwelion ehangach o bosibl, y mae ei olynydd, felly, wedi addo bod yn arweinydd "Cymru gyfan", gyda'i olwg ar y wlad yn hytrach na'r Senedd.

University View Jan 2010

top

40 o flynyddoedd o ysbrydoli dysgu yng Nghymru

Dathlodd y Brifysgol Agored yng Nghymru ei phen-blwydd yn 40 oed ledled y wlad, o Landudno ar arfordir y Gogledd, i'r Gelli Gandryll ar y ffin rhwng Powys a Swydd Henffordd, i Abertawe yn y De Orllewin.

Mewn cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gyda chyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol, staff a chyn-staff gan gynnwys darlithwyr cyswllt, cefnogwyr a gwesteion pwysig oll yn cymryd rhan, cafodd bron i fil o bobl ym mhob cwr o Gymru flas ar 40 o flynyddoedd o ysbrydoli dysgu.

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Tachwedd 2009

10 MILIWN O LAWRLWYTHIADAU GAN Y BRIFYSGOL AGORED AR ITUNES U
Lawrlwythwyd 10fed miliwn trac y Brifysgol Agored ar iTunes U, ardal benodol o fewn iTunes Store (www.itunes.com), yr wythnos diwethaf, gan wneud y Brifysgol Agored yn brif ddarparwr cynnwys prifysgol am ddim ar iTunes U. Lansiodd y Brifysgol Agored ei darn cyntaf o gynnwys addysgol ar iTunes U ym mis Mehefin 2008 ac erbyn hyn caiff tua 375,000 o eitemau eu lawrlwytho bob wythnos.

Y BRIFYSGOL AGORED YN ENNILL GWOBR AM RAGLEN ADDYSG ATHRAWON YN AFFRICA
Mae'r Brifysgol Agored yn un o 20 o enillwyr Gwobrau mawreddog Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Dyfernir Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines am gyfraniadau eithriadol gan sefydliadau yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach at y gymuned ehangach. Cynnig buddugol y Brifysgol Agored oedd y rhaglen Addysg Athrawon arloesol yn Affrica Is-Sahara. Erbyn hyn, Addysg Athrawon yn Affrica Is-Sahara (TESSA) yw'r gymuned ymchwil a datblygu addysg athrawon fwyaf yn Affrica, gan ymestyn ar draws tri ar ddeg o sefydliadau a naw gwlad yn Affrica.

MYFYRWRAIG Y BRIFYSGOL AGORED YW CYNORTHWY-YDD GOFAL IECHYD Y FLWYDDYN
Mae un o fyfyrwyr y Brifysgol Agored wedi cael ei henwi fel cyd-Gynorthwy-ydd Gofal Iechyd Safon Nyrsio y Flwyddyn. Mae Natalie Rowles, sy'n weithiwr cymorth gofal iechyd ym maes gofal parhaus yn Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent, yn gweithio yn Ysbyty'r Sir yn Griffithstown, Pont-y-pŵl ac fe'i cydnabuwyd am ei gwaith yn darparu pecyn gofal cymhleth i ferch ifanc â pharlys yr ymennydd, epilepsi ac anawsterau dysgu. Cafodd ei gwobr mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Dorchester yn gynharach y mis hwn.

Bwletin Newyddion Tachwedd 2009

top

Gweinidog y Trysorlys yn lansio cydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored a Chastell-nedd Port Talbot

Coleg Castell-nedd Port Talbot fydd y cyntaf yn y DU i gyflwyno gradd sylfaen (FD) y Brifysgol Agored mewn Gwasanaethau Ariannol.

Lansiwyd y Radd Sylfaen yn Neuadd Plaisterer, Llundain, yr wythnos ddiwethaf gan Paul Myners, Ysgrifennydd Gwasanaethau Ariannol y Trysorlys, gyda chynrychiolwyr o'r coleg a'r Brifysgol Agored yn bresennol. Hefyd roedd Evan Davies, un o raddedigion anrhydeddus y Brifysgol Agored yn ogystal ag economegydd, newyddiadurwr a chyflwynydd Dragon's Den, yno i ddangos ei gefnogaeth i'r cymhwyster newydd.

Trysorlys yn lansio cydweithrediad rhwng y Brifysgol Agored a Chastell-nedd Port Talbot

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Hydref 2009

Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a Is-Ganghellor newydd y Brifysgol, yr Arolwg Busnesau Bach diweddaraf a digwyddiadau'r Brifysgol i ddod.

Bwletin Newyddion Hydref 2009

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Awst/Medi 2009

Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a ddatblygiad newydd gyda Prifysgol Bangor, cynydd yn y nifer o fyfyrwyr iau ac fod y Brifysgol Agored yng Nghymru unwaith eto ar y brif ar gyfer boddhad myfyrwyr.

Bwletin Newyddion - Awst/Medi 2009

top

Erthygl Western Mail, Gorffennaf 2009 - Astudio a safleoedd, a phopeth sy'n ymwneud â'r Maes

Felly, i'r Bala amdani ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol eleni, gan adael cricedwyr Caerdydd i ddelio â miloedd o ddyfodiaid o Loegr ac Awstralia yr haf hon, yn lle'r pafiliwn pinc yn treulio wicedi caeau Pontcanna.

Erthygl Western Mail, Gorffennaf 2009 - Astudio a safleoedd, a phopeth sy'n ymwneud â'r Maes

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Gorffennaf 2009

Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a weithgareddau’r Brifysgol yn y ‘steddfod, ynghyd a newyddion ynglyn a ddatblygiad wefan dirwasgiad Cymru newydd.

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Gorffennaf 2009

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mehefin 2009

26 Mehefin 2009
Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a Coast yn dod nol i BBC Dau, manylion ynglyn ag ymateb y brifysgol i strategaeth ieithoedd tramor Llywodraeth Cymru ac llwydiant cyllid HEFCW i’r brifysgol er mwyn cynyddu gwaith ehangu mynediad a chyswllt a chyflogwyr.

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mehefin 2009

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mai 2009

29 Mai 2009
Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a ‘Steddfod yr Urdd, tystiolaeth y Brifysgol i’r Pwyllgor Materion Cymreig a manlyion ymgyrch newydd astudiaeth ffordiadwy.

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mai 2009

top

"Croeso" i ragflas o'r Gymraeg yn yr Urdd, medd y Brifysgol Agored

20 Mai 2009

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn estyn "Croeso" i'r Brifysgol Agored yr wythnos nesaf, oherwydd, am y tro cynta, bydd gan brifysgol dysgu o bell flaenllaw'r DU bresenoldeb swyddogol yn yr ŵyl ieuenctid.
Bydd Caffi Drysau Agored gan y Brifysgol Agored ar y Maes ym Mae Caerdydd. Bydd ymwelwyr yn cael gwybod rhagor am Croeso, sef cwrs Cymraeg i ddechreuwyr y Brifysgol Agored, yn dysgu am Gyfleoedd, sef cyrsiau camau cyntaf i ddysgu ysbrydoledig y brifysgol, ac yn cael gwybod am Ddysgu Agored, sef adnoddau ar-lein gwych, sy'n rhad ac am ddim.

"Croeso" i ragflas o'r Gymraeg yn yr Urdd, medd y Brifysgol Agored

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Ebrill 2009

23 Ebrill 2009
Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddoleni ynglyn a’r diwrnod graddio’r Brifysgol Agored yng Nghymru (9fed Mai), gwybodaeth ynglyn a darlith y Brifysgol yng Nghwyl y Gelli a hefyd digwyddiadau Wythnos y Dysgwyr.



Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Ebrill 2009

top

40 mlynedd – ysbrydoli dysgu

22 Ebrill 2009

Mae’r Brifysgol Agored yn dathlu’n deugainmlwyddiant ym 2009/10. Ebrill 23ain yw deuganmlwyddiant y Siartr Brenhinol wnaeth sefydlu’r Brifysgol Agored. Yn ystod y flwyddyn bydd yna digwyddiadau i gofnodi 40 mlynedd o hysbrydoli dysgu.

Roedd y Siartr yn sefydlu Brifysgol Agored ar gyfer hybu dysgu a gwybodaeth gan dysgu ac ymchwil trwy dulliau amrwyiol darlledu a technolegol.

Am mwy o wybodaeth darllenwch y pac atodedig ynglyn ar deugainmlwyddiant, gyda ffeithiau a ffigurau ynglyn a’r Brifysgol Agored yng Nghymru, manylion digwyddiadau’r penblwydd a llawer mwy. Am adnoddau pellach, ymwelwch a www.open.ac.uk/media

40 mlynedd – ysbrydoli dysgu

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mawrth 2009

26 Mawrth 2009

Mae rhifyn mis yma yn cynnwys newyddion a ddolenni ynglyn a’r cynydd cyffrous yn y nifer o fyfyrwyr y Brifysgol Agored yng Nghymru, adroddiad ar y cynhadledd yBA/RCN Cymru diweddar a sut i fynd yn wyrdd gyda’r BA.

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Mawrth 2009

top

Ar agor ers 40 mlynedd - Y Brifysgol Agored yn dathlu ei phen-blwydd gyda digwyddiad yn Sir Benfro

Mawrth 12fed 2009
Efallai eich bod yn cofio 1969 fel y flwyddyn pan aeth dyn i'r lleuad gyntaf, pan gafodd Richard Nixon ei ethol yn Arlywydd neu pan chwaraeodd y Beatles eu gig olaf enwog ar ben adeilad Apple. Ond roedd 1969 hefyd yn flwyddyn a dorrodd dir newydd ym maes addysg uwch yn y DU gyda sefydliad y Brifysgol Agored.

Bydd Cangen Hwlffordd Cymdeithas Myfyrwyr y Brifysgol Agored (OUSA) yn dathlu 40 mlynedd ers Diwrnod Siarter y Brifysgol - 23ain Ebrill - drwy gynnal cinio ym Mwyty'r Harbourmaster, Aberdaugleddau. Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, fydd y gwestai arbennig a bydd yn cyflwyno cipolwg ar ddyfodol y Brifysgol a phwysigrwydd cynyddol astudiaethau rhan amser, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

Ar agor ers 40 mlynedd - Y Brifysgol Agored yn dathlu ei phen-blwydd gyda digwyddiad yn Sir Benfro

top

Erthygl y Western Mail - Mawrth 12fed 2009

Mawrth 12fed 2009
Gall y chwyldro digidol olygu mwy i Gymru na blwch pen-set sy'n cynnig cannoedd o sianeli teledu sy'n ailddarlledu Only Fools and Horses neu gyfresi diddiwedd o raglenni teledu o’r UD yn y 1970au. I aralleirio comandwyr y Six Million Dollar Man, "Gallwn wella sgiliau'r wlad hon. Mae gennym y dechnoleg".

Erthygl y Western Mail - Mawrth 12fed 2009

top

Cyflwyniad ysgrifennedig i Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cymreig:Cynhwysiant Digidol yng Nghymru

Mae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar fanteision cynhwysiant digidol i addysg. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig, i'r potensial sydd gan dechnoleg ddigidol i wella'r cysylltiadau rhwng addysg (uwch) a'r economi, cynyddu mynediad i ddeunyddiau a chyfleoedd dysgu, cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu i safon uchel, a gallu Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i gystadlu yn y farchnad fyd-eang a rôl y llywodraeth mewn perthynas â'r uchod.

Cynhwysiant Digidol yng Nghymru

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Chwefror 2009

26 Chwefror 2009

Dyma’r ail o fwletinau newyddion misol newydd y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion a ddolenni ynglyn a chyflogadwydd raddedigion y Brifysgol Agored, ymateb y Brifysgol i ymgynghoriad cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru a weithgareddau Darwin.

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru - Chwefror 2009

top

YMGYNGHORIAD CYLLID MYFYRWYR – Ymateb y Brifysgol Agored yng Nghymru

17 Chwefror 2009

Mae ein sylwadau'n canolbwyntio ar gwestiynau diweddarach yr ymgynghoriad, sef y rhai sy'n ymwneud â buddsoddi yn y sector addysg uwch a sut mae myfyrwyr yn cael budd.

Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cefnogi'r cynigion a roddir yn y ddogfen yn gyffredinol, ond nodwn fod yr ymgynghoriad hwn ond yn ymwneud ag israddedigion llawn amser a bod Cam 2 o'r Adolygiad Addysg Uwch yn ystyried rôl arwyddocaol gynyddol myfyrwyr rhan amser yng Nghymru .

YMGYNGHORIAD CYLLID MYFYRWYR – Ymateb y Brifysgol Agored yng Nghymru

top

Esblygwch eich hun: Mynd yn ôl mewn amser gyda Darwin a'r Brifysgol Agored

4 Chwefror 2009
Dathlwch ben-blwydd Charles Darwin yn 200 (12fed Chwefror) drwy weld sut y byddech chi a'ch ffrindiau wedi edrych filiynau o flynyddoedd yn ôl gyda'r adnodd newid wyneb difyr Devolve Me, ar wefan Darwin y Brifysgol Agored www.openuniversity.co.uk/darwin

Drwy roi llun ar Devolve Me, gallwch fynd yn ôl mewn amser i weld sut fyddech chi wedi edrych fel Australopithecus afarensis (3.7 o filiynau o flynyddoedd yn ôl), fel Homo habilis (2.2 o filiynau o flynyddoedd yn ôl), fel Homo erectus (1.8 o filiynau o flynyddoedd yn ôl) neu fel Homo heidelbergensis (500,000 o flynyddoedd yn ôl).

Esblygwch eich hun: Mynd yn ôl mewn amser gyda Darwin a'r Brifysgol Agored

top

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Ionawr 09

16 Ionawr 2009
Hwn yw'r cyntaf o fwletinau newyddion misol newydd y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion a ddolenni i berfformiad ymchwil “radd-flaenaf” y brifysgol, manylion y diwrnod agored astudio ôl-raddedig cyntaf yng Nghymru a wefan newydd y brifysgol i helpu weithwyr i oresgyn y dirwasgiad.

Bwletin Newyddion Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Ionawr 09

top

Erthygl Western Mail y PA ar yr adolygiad AU

4ydd Rhagfyr 2008
Beth sy'n digwydd nesaf ar ôl i Grŵp Gorchwyl a Gorffen orffen ei dasg? Wel os yw yng Nghymru mae'n rhaid... cynnal ymgynghoriad!

Dyna'r her - a'r cyfle - uniongyrchol sy'n wynebu addysg uwch yng Nghymru yn dilyn ymateb y Llywodraeth i adroddiad AU yr Athro Merfyn Jones.

Ac mae'n gyfle i'w groesawu i lunio llwybr ar gyfer prifysgolion, myfyrwyr a'r economi a all "ehangu mynediad, helpu i fynd i'r afael â dyled myfyrwyr, a rhoi hwb buddsoddi sylweddol", fel y rhagwelwyd i gyd gan y Gweinidog dros Addysg.

Erthygl Western Mail y PA ar yr adolygiad AU

top

Datganiad y Prifysgol Agored cyn datganiad y Gweinidog ar adolygiad y grwp Addysg Uwch

Cyn datganiad y Gweinidog ar Addysg Uwch heddiw, y disgwylir iddo ymateb i adroddiad cam cyntaf y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Addysg Uwch, dywedodd Dewi Knight, rheolwr polisi y Brifysgol Agored yng Nghymru:

"Mae buddiannau astudio Addysg Uwch yn rhan amser yn rhan annatod o allu Cymru i addasu i'r hinsawdd economaidd bresennol a'r hinsawdd yn y dyfodol.

"Mae'n rhaid i gamau gweithredu'r Llywodraeth ynghylch rôl, diben a chost addysg uwch - o dan yr amodau economaidd presennol - gydnabod demograffeg gyfnewidiol Cymru a sicrhau bod addysg uwch yn offeryn ar gyfer economi sgiliau uwch hyblyg.

"Mae angen gweithlu sgiliau uwch hyblyg ar economi sgiliau uwch hyblyg. Gyda 70% o weithlu 2020 eisoes o oedran gweithio, mae'n rhaid hybu addysg uwch fel cyfle gydol oes. Ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithlu, astudio'n rhan amser yw'r unig ddewis ar gyfer dilyn cwrs addysg uwch. Mewn unrhyw drafodaeth ynglŷn â chost addysg uwch i fyfyrwyr, mae'n rhaid i ni gydnabod bod 40% o fyfyrwyr Addysg Uwch yng Nghymru eisoes yn astudio'n rhan amser, ac wrth i'r Llywodraeth bwysleisio ehangu mynediad, mae'r ffigur hwnnw yn debygol o gynyddu.

"Fel yr eglurodd Adolygiad Graham, mae parch cydradd rhwng astudio'n rhan amser ac yn llawn amser yn bwysig o ran cydbwyso ffordd ymlaen ar gyfer addysg uwch yng Nghymru."

top

Cyn-lysgennad y Cenhedloedd Unedig â rôl flaenllaw yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored

31 Mawrth 2008
Yn ogystal â’i rôl uchel ei phroffil yn paratoi’r ffordd ar gyfer refferendwm ar sefydlu senedd â phwerau deddfu llawn i Gymru, mae Syr Emyr Jones Parry bellach yn gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhyngwladol newydd ar gyfer Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored (OUBS). Ar hyn o bryd mae dros 600 wedi cofrestru ar gyfer cyrsiau OUBS yng Nghymru, a ddefnyddir gan unigolion a chwmnïau i wella eu sgiliau busnes.

Cyn-lysgennad y Cenhedloedd Unedig â rôl flaenllaw yn Ysgol Fusnes y Brifysgol Agored

top

Galw brodyr a chwiorydd!

7 Mawrth 2008
Mae gan y rhan fwyaf ohonom frodyr neu chwiorydd, neu bobl sy’n ‘union fel brawd neu chwaer’ – ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn cadw mewn cysylltiad â nhw, bob yn hyn a hyn o bosib, a hynny gydol ein bywyd. Pam? Fel rhan o Ŵyl Gwyddoniaeth Gymdeithasol ESRC, mae ymchwilwyr yn gwahodd y cyhoedd i ymweld â’r Brifysgol Agored yng Nghymru i’w helpu i gasglu tystiolaeth am rôl brodyr a chwiorydd yn ein bywydau.

Galw brodyr a chwiorydd!

top

Partneriaeth newydd yn newid byd addysg gofal iechyd yng Nghymru

6 Mawrth 2008
Fe fydd newid yn y sefyllfa addysg gofal iechyd yng Nghymru yn dilyn lansio cynghrair strategol rhwng Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Bydd cyfle i ddathlu’r bartneriaeth newydd hon mewn digwyddiad a gynhelir yn y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru nos Lun, 10 Mawrth. Llywydd y noson fydd Jonathan Morgan, AC sy’n Gadeirydd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol.

Partneriaeth newydd yn newid byd addysg gofal iechyd yng Nghymru

top

Y Brifysgol Agored yn dod â chlec, fflach a chwmwl o fwg i ymweld â Gŵyl, Wyddoniaeth Wrecsam 2008

3 Mawrth 2008
Disgwyliwch fflachiadau a chlec neu ddwy yng Ngŵyl Wyddoniaeth Wrecsam eleni pan fydd gwyddonwyr Y Brifysgol Agored, Rob Janes a Mike Batham yn gwahodd eu cynulleidfa i archwilio Swyngyfaredd Ocsigen.

Y Brifysgol Agored yn dod â chlec, fflach a chwmwl o fwg i ymweld â Gŵyl, Wyddoniaeth Wrecsam 2008

top

Cynghrair Newydd yn garreg filltir i Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

29 Tachwedd 2007
Bydd gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio yn y sector cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn gallu manteisio ar bartneriaeth newydd i gynnig yr addysg a’r hyfforddiant angenrheidiol i fynd i’r afael â’r heriau ym maes cyfiawnder ieuenctid, a datblygu’r wybodaeth broffesiynol a’r sgiliau y mae eu hangen ar staff.

Cynghrair Newydd yn garreg filltir i Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru

top

Agor Drysau gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru

6 Mai 2007
Mae cyfleusterau astudio newydd yng nghanol y ddinas wedi agor yng Nghaerdydd ar gyfer myfyrwyr gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Wedi’i lleoli yn agos at y brif orsaf reilffordd yn Natblygiad Dewi Sant 2 Caerdydd, mae’r ganolfan astudio newydd ar lawr gwaelod adeilad Tŷ UNSAIN sy’n gyfagos i swyddfeydd newydd Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae’r buddsoddiad yn rhan o symudiad, gostiodd £5 miliwn, i adeiladau mwy gweladwy a mwy hygyrch ynghanol y Ddinas.

Mae’r ganolfan astudio yng Nghaerdydd yn ymuno â rhwydwaith o ganolfannau astudio ledled Cymru, a ddefnyddir i gynnal cyfarfodydd, sesiynau tiwtorial ac arholiadau gan gynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn eu hastudiaethau rhan-amser.

Mae drysau’n agor hefyd i’r 369 o fyfyrwyr ledled Cymru sydd eisoes wedi defnyddio cyfleusterau a deunyddiau’r Brifysgol Agored yn llwyddiannus i gwblhau eu hastudiaethau gradd. Dathlwyd eu cyflawniadau’r penwythnos hwn (5 Mai) gyda chyfeiliion, teuluoedd, cyflogwyr a thiwtoriaid mewn seremoni raddio yn Neuadd Dewi Sant, oedd yn orlawn.

top

Chwilio am ‘arch-arwyr’ dosbarth y dyfodol

12 Gorffennaf 2007
Mae gan Y Brifysgol Agored yng Nghymru dasg i ddod o hyd i 25 unigolyn talentog.

Chwilio am ‘arch-arwyr’ dosbarth y dyfodol

top

Deg yn derbyn her ‘Addysgu Eto’

20 Mehefin 2007
Ar ddydd Sadwrn 18 Mehefin dyfarnwyd tystysgrifau Y Brifysgol Agored yng Nghymru i ddeg athro Cymreig

Deg yn derbyn her ‘Addysgu Eto’

top

Partneriaeth TUC Cymru'n agor y drws i addysg Y Brifysgol Agored i hanner miliwn o weithwyr Cymreig

4 Ebrill 2007
Gallai bron i 20% o oedolion yng Nghymru elwa o femorandwm dealltwriaeth (MD) a arwyddwyd rhwng TUC Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru (yr OU) yng Nghaerdydd heddiw (Dydd Mercher 4 Ebrill 2007).

Partneriaeth TUC Cymru'n

top

Avanti ! Y Brifysgol Agored yn cynnig help gydag Eidaleg ar gyfer Gêm Derfynol Cyngrair y Pencampwyr

21 Mai 2007
Mae'r Brifysgol Agored yn lansio cwrs newydd mewn Eidaleg i gychwynnwyr - L195 Andante.

Avanti

top

Cyfarwyddwr newydd i'r Brifysgol Agored yng Nghymru

22 Mai 2007
Yr wythnos hon mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru'n croesawu arbenigwr mewn addysg oedolion yn gyfarwyddwr newydd.

Cyfarwyddwr newydd i'r Brifysgol Agored yng Nghymru

Back to top