On this page
Mae'r Brifysgol Agored wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg ar sail eu bod yn gyfartal. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Brifysgol Agored yn gweithredu'r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Oni nodir fel arall, gweithredir pob ymrwymiad a nodir yn y Cynllun hwn o'r dyddiad cymeradwyo.
Y Brifysgol Agored - Cynllun Iaith Gymraeg
topMae'r Brifysgol Agored yn cynnig asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg (gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau, prosiectau a thesis ym mhob maes pwnc) i'w myfyrwyr ac mae'n cynnal asesiadau yn unol â dewis ieithyddol y myfyriwr.
Os bydd myfyriwr yn dymuno cyflwyno asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n rhaid iddynt roi gwybod i’r Brifysgol Agored ar ddechrau’r cwrs. Isod, fe welwch y canllawiau ar gyfer Asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.