
Mae'r Brifysgol Agored yn unigryw. Rydym yn arwain y byd o ran defnyddio technoleg arloesol i greu darpariaeth ddysgu uwch hyblyg o safon uchel ledled y Deyrnas Unedig ac ar lwyfan ehangach, byd-eang, ac rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn 'agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau'.
Mae Dyfodol y Brifysgol Agored yng Nghymru yn nodi ein blaenoriaethau allweddol ar gyfer y cyfnod sydd i ddod ac mae wedi ei osod o fewn strategaeth gyffredinol y Brifysgol, OU Futures 2010-13. Mae'n werth nodi eto beth y mae angen i ni ei wneud i gyflawni cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd Y Brifysgol Agored yn barhaus yn sgîl y newidiadau sy'n digwydd ar hyn o bryd i'r amgylcheddau mewnol ac allanol.
Dyfodol y Brifysgol Agored yng Nghymru
top
Ymunwch â ni i ystyried a rhannu cyfleoedd mewn ymchwilio a datblygu mewn un o’n ddigwyddiad agored:–
24 Mawrth 2010 yng Ngwesty a Sba y Quay, Degannwy
12.30 pm i 5.00 pm
Ar sail dyfarniad rhagorol yn rhyngwladol (50+%) ac un o’r goreuon yn y byd (14%) i’w gwaith ymchwil, mae’r Brifysgol Agored yn meithrin timau sy’n gallu cystadlu â’r goreuon yn y byd - a gallech chithau ffurfio partneriaeth gyda ni.
Canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) y Deyrnas Unedig 2008
O archwilio’r gofod i ddinasyddiaeth, ymchwil feddygol arloesol i ynni adnewyddadwy, mae’n ymwneud â phob agwedd ar fywyd modern. Mae ganddi enw da yn fyd-eang ar sail ansawdd ei haddysgu, ei chymorth i fyfyrwyr, a’i chysylltiadau llawn dychymyg â busnes a diwydiant.

I gofrestri am lle ymweld a http://www.open.ac.uk/forms/workingtogetherevents/
I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: workingtogether@open.ac.uk
neu ffoniwch ein asiant: 0844 736 2651
Rhaglen y Digwyddiadau
12:30 Cinio bwffe a chyfle i rwydweithio
14:00 Croeso a chyflwyno - Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru
14:10 Yr Athro Brigid Heywood, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil a Menter),
Y Brifysgol Agored
14:40 Cyflwyniad i weddill y dydd – Rob Humphreys
14:45 Sesiwn agored o rannu gwybodaeth o’ch pen a’ch pastwn eich hun yn ôl eich diddordebau. Cyfarfod a siarad â staff mewn meysydd allweddol o ragoriaeth mewn ymchwil gan gynnwys gwyddorau bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol, yr amgylchedd, cynaliadwyedd, technoleg addysg yn ogystal â chyfrifiaduro mewn defnyddiau a gwaith peiriannu arall (lluniaeth ar gael drwy’r amser)
16:15 Diweddglo
17:00 Ymadael

(i) Dringodd y Brifysgol Agored 3, 13, neu 23 o leoedd yn Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) 2008 i gyrraedd rhif 43 yn y Deyrnas Unedig?
(ii) Pa sefydliad a ariannodd Arsyllfa Bioamrywiaeth y Brifysgol Agored â £2m?
(iii) Mae nifer y myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio yng Nghymru i gyrsiau rhan-amser y Brifysgol Agored wedi codi 15%, 28% neu 30%?
(iv) Beth yw enw’r rhaglen wyddoniaeth boblogaidd ar y teledu y mae’r Brifysgol Agored wedi’i chynhyrchu ar y cyd â’r BBC?
(v) Mae gan y Brifysgol Agored fwy na 1,000 o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi’u cofrestru ar gyfer graddau ymchwil. Gwir neu Gau?
(vi) Pa brifysgol arall yng Nghymru sy’n rhannu lle Canolfan Ymchwil Cyfrifiadureg y Brifysgol Agored yn yr 16eg safle yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008?
(vii) Beth sydd gan Lenny Henry, Joan Armatrading a Jerry Hall yn gyffredin?
(viii) Ers 2004, mae’r Brifysgol Agored wedi gweld cynnydd o 50% yn yr incwm ymchwil sy’n cael ei ddyrannu ar sail gystadleuol. Gwir neu Gau?
Dysgwch yr atebion i’r cwestiynau hyn ac i lawer mwy o’ch cwestiynau chi’ch hun mewn un o’n dau ddigwyddiad ‘Gweithio Gyda’n Gilydd’ sy’n cael eu cynnal ym mis Tachwedd a mis Mawrth!